Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-12-11 papur 3
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Oddi wrth: Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor
Dyddiad: Tachwedd 2011
DEISEB AR Y DDARPARIAETH O DOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGHYMRU – YSTYRIED DULL Y PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL O WEITHREDU
Cefndir
1. Yn ei gyfarfod ar 12 Hydref, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal sesiwn dystiolaeth lafar ar y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn cyfeirio deiseb ar y pwnc hwn o'r Pwyllgor Deisebau (P-03-292) yn ystod mis Gorffennaf 2011.
2. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu sesiwn ar ôl toriad y Nadolig i ystyried y materion iechyd cyhoeddus a godwyd yn y ddeiseb, yn benodol goblygiadau iechyd cyhoeddus yr honiad bod diffyg cyfleusterau toiledau cyhoeddus.
3. Er mwyn hysbysu ei waith, awgrymir bod y Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad ysgrifenedig byr, â ffocws, cyn y sesiwn dystiolaeth lafar sydd i'w threfnu ym mis Ionawr 2012. Amlinellir manylion hyn yn y papur hwn.
Diben
4. Gofynnir i'r Pwyllgor ystyried a chytuno ar y canlynol: y cwestiynau a ofynnir fel rhan o'r ymgynghoriad ysgrifenedig; rhestr ddrafft o ymgyngoreion; ac amserlen arfaethedig ar gyfer y gwaith.
Tystiolaeth ysgrifenedig: cwestiynau allweddol
5. Cynigir bod y Pwyllgor yn ceisio barn ysgrifenedig partïon â diddordeb ynghylch y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Awgrymir bod yr ymgynghoriad ysgrifenedig yn:
- canolbwyntio ar oblygiadau iechyd cyhoeddus diffyg honedig yn y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus;
- esbonio'n glir na all y Pwyllgor wneud sylwadau penodol ar ddyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau, gan nad yw hynny'n rhan uniongyrchol o gylch gwaith y Pwyllgor.
6. Atodir rhestr o ymgyngoreion ar gyfer yr ymgynghoriad ysgrifenedig â ffocws yn Atodiad A i'r papur hwn.
7. Dyma gwestiynau yr awgrymir eu gofyn fel rhan o'r ymgynghoriad:
- Beth yw effeithiau darpariaeth o doiledau cyhoeddus (neu ddiffyg darpariaeth o'r fath) ar iechyd a lles cymdeithasol person?
- A oes tystiolaeth bod pobl yn methu gadael eu cartrefi oherwydd pryderon ynghylch argaeledd toiledau cyhoeddus? Os oes, beth yw goblygiadau hynny o ran iechyd a lles?
- A oes cydraddoldeb ledled Cymru – ac yng nghyswllt pob person – o ran y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus?
· Sut dylai cyfleusterau toiledau cyhoeddus ymateb i anghenion grwpiau gwahanol o bobl (dynion, menywod, pobl anabl, pobl ag anghenion iechyd arbennig, plant)?
· A oes angen arbennig am well cyfleusterau i grwpiau penodol?
- Pa effeithiau ehangach gallai darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus eu cael ar iechyd cyhoeddus a'r gymuned? Er enghraifft, mae gohebiaeth a anfonwyd at y Pwyllgor Deisebau yn awgrymu bod perygl o faeddu strydoedd, gyda chlefydau'n ymledu yn sgil hynny.
Amserlen
8. Awgrymir yr amserlen ganlynol:
25 Tachwedd 2011 Cyflwyno ymgynghoriad ysgrifenedig
23 Rhagfyr 2011 Yr ymgynghoriad ysgrifenedig yn dod i ben
Ionawr 2012 Sesiwn dystiolaeth lafar
Tystiolaeth lafar
9. Tystion a awgrymir ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar yw:
- Y Cyng. Louise Hughes (prif ddeisebydd), Age Cymru a Senedd Pobl Hŷn Cymru (yn cefnogi'r ddeiseb);
- Ymarferwyr iechyd a chynrychiolwyr elusennau'r bledren a'r coluddion; a'r
- Chris Brereton, Dirprwy Brif Cynghorydd Iechyd yr Amgylchedd, a Dr Sara Hayes fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (iechyd cyhoeddus) dros dro.
Gweithredu
10. Gwahoddir yr Aelodau i drafod a chytuno ar y dull o weithredu a amlinellir yn y papur hwn, gan gynnwys:
- y cwestiynau allweddol i'w gofyn fel rhan o'r ymgynghoriad ysgrifenedig byr, â ffocws, cyn y sesiwn dystiolaeth lafar (paragraff 7)
- yr amserlen arfaethedig (paragraff 8)
- y tystion a gynigir ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar ym mis Ionawr (paragraff 9)
- yr ymgyngoreion a gynigir ar gyfer yr ymgynghoriad ysgrifenedig byr â ffocws (Atodiad A)
ATODIAD A
Rhestr o ymgyngoreion ar gyfer yr ymarferiad ymgynghori ysgrifenedig â ffocws
· Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
· Age Cymru
· Senedd Pobl Hŷn Cymru
· Byrddau Iechyd Lleol
· Iechyd Cyhoeddus Cymru
· Cyfadran Iechyd y Cyhoedd
· Anabledd Cymru
· Mencap Cymru
· Scope Cymru
· Cymdeithas Toiledau Prydain
· Y Rhwydwaith IBS
· Sefydliad y Bledren a'r Coluddyn
· Cymdeithas Genedlaethol Colitis a Chlefyd Crohn
· Y Gymdeithas Cyngor ar Ymataliaeth
· Fforwm Ymataliaeth Cymru Gyfan
· Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain
· Sefydliad Joseph Rowntree
· Comisiynydd Plant Cymru
· Plant yng Nghymru